SL(5)240 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 46(3)(c) o Reoliadau 2018 fel bod uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy, pan fo incwm aelwyd myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, wedi ei ostwng £1 am bob £5.750 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle ac eithrio Llundain.

Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 56 newydd yn lle rheoliad 56 o Reoliadau 2018. Mae’r rheoliad newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 58 o Reoliadau 2018 o ganlyniad i reoliad 6.  Mae rheoliad 6 yn darparu i reoliad newydd gael ei fewnosod yn Rheoliadau 2018, sef rheoliad 58A. Mae rheoliad 58A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.

Mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn diwygio yn eu trefn reoliadau 81, 93, 94 a 95 o Reoliadau 2018 sy’n ymdrin â chyfrifo’r hawlogaeth i gael benthyciad cynhaliaeth pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ond, ar adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn absennol o’r cwrs neu fod ei gyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Yn wreiddiol, roedd Rheoliadau 2018 yn cynnwys fformiwla syml ar gyfer cyfrifo'r swm ar gyfer lleihau grant neu fenthyciad myfyriwr pan fo'r myfyriwr yn y carchar, neu fel arall yn absennol o gwrs addysg uwch.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018 trwy ddileu'r fformiwla a'i disodli gyda'r geiriau "mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor / yn absennol o’i gwrs.”

O ystyried mai dim ond yn ddiweddar y daeth Rheoliadau 2018 i rym (12 Mawrth 2018), byddem yn falch o gael y canlynol gan Lywodraeth Cymru: (a) eglurhad pam y bu'n rhaid dileu'r fformiwla o Reoliadau 2018, a (b) cadarnhad nad yw'r diwygiad yn newid polisi mewn unrhyw ffordd.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

O ystyried mai dim ond yn ddiweddar y daeth Rheoliadau 2018 i rym (12 Mawrth 2018), byddem yn croesawu'r canlynol oddi wrth Lywodraeth Cymru: (a) eglurhad o ran pam yr oedd angen tynnu'r fformiwla o Reoliadau 2018, a (b) cadarnhad nad yw'r diwygiad yn newid polisi mewn unrhyw ffordd.

 

Nid oedd y fformiwla yn angenrheidiol ac mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer esboniad syml am y ffordd hawdd y mae'r hawlogaeth i gyllid yn cael ei hailgyfrifo pan ddaw myfyriwr yn garcharor. Dyma’r dull sydd wedi ei ddefnyddio yn Rhan 9 o’r Rheoliadau.

 

Nid yw'r diwygiad yn newid polisi.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

31 Awst 2018